Croeso i Wefan Cyngor Tref Aberaeron
Ffurfiwyd Cyngor Tref Aberaeron yn ystod ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974 ac
y mae yn un o’r 735 cyngor tref a chymuned yng Nghymru. Y mae’r Cyngor Tref yn cynrychioli’r lefel
mwyaf lleol o weinyddiad lleol yn yr ardal hon.
Y mae’r Cyngor yn cynnwys 12 Cynghorydd sy’n cynrychioli cymuned
Aberaeron. Fe etholir Maer a Dirprwy
Faer bob blwyddyn yn y Cyfarfod Blynyddol ym mis Mai.
Y mae gan y Maer dwy rôl, sef cadeirio cyfarfodydd y Cyngor Tref
ac i ymgymryd â dyletswyddau sifig a gweithredu fel llysgennad ar ran y
dref.
Fe’u cynorthwyir gan
Glerc Cyngor y Dref, sef Mr Denfer Morgan.
Cynllun Busnes Cyngor Tref Aberaeron 2021-24
Mae Cynllun Busnes Cyngor y Dref 2021-24 yn darparu crynodeb o brif ddyheadau y Cyngor Tref ar gyfer y tair blynedd nesaf, Ebrill 2021-Mawrth 2024, ac yn amlinellu ei nodau ac amcanion allweddol.